Croeso
Mae’r safle hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau addysgol sydd eu hangen ar athrawon i gyflwyno addysg ariannol effeithiol. Mae addysg ariannol yn datblygu dealltwriaeth ariannol, sgiliau a hyder dysgwyr, ac yn eu cynorthwyo i wynebu her rheoli arian a gwneud penderfyniadau cytbwys a gwybodus sy’n rhan hanfodol o fywyd bob dydd.
Sefydlwyd Uned Addysg Ariannol Cymru (UAAC) yn 2008 fel un llinyn o strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nod UAAC yw cynorthwyo ymarferwyr cynradd ac uwchradd i wneud y defnydd gorau o’r cyfleoedd ar gyfer addysg ariannol sydd wedi’u hymgorffori yng nghwricwlwm diwygiedig ysgolion, ac wrth gynllunio rhaglen gydgysylltiedig sy’n cwmpasu ystod eang meysydd y cwricwlwm.
I ddysgu mwy am rôl, rhaglen waith a materion perthnasol ymwelwch â gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy’r cysylltau a ganlyn:
Cynllun Strategaeth(UAAC)Unid Addysg Ariannol Cymru 2009-11 Addysg Ariannol i ddysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru.Canllawiau i ymarferwyr
